Croeso i Meddygfa Cadwgan

 HAFAN

 Gwybodaeth am
 y feddygfa

 Y Tîm

 Gwasanaethau

 Presgripsiynau

 Apwyntiadau

 Clinigau a
 gwasanaethau eraill

 Letter Tracker

 Linciau defynddiol

 Cysylltwch â Ni

 English

  MedDesk Cyf

 

 

Cyngor ar Deithio Dramor
  
Mae’r Adran Iechyd yn cyhoeddi cyngor ar deithio dramor –mae ar gael trwy glicio yma

Gall nyrs roi cyngor ynglyn a’ch anghenion gwrth-falaria a brechiadau tramor. Ni all y feddygfa roi prescriptiwn gwrth-falaria ar y Gwasanaeth Iechyd.

Brechiadau
Dylid caniatau digon o amser i’r rhain weithio. Mae tâl hefyd am rai o’r brechiadau.

Mae Meddygfa Cadwgan yn ganolfan gofrestredig i frechu rhag y Clefyd Melyn.

Thrombosis Gwythiennau Dwfn
Mae unrhyw daith hir ar awyren neu ar fws yn gallu cynyddu eich risg o gael thrombosis y gwythiennau dwfn. Gallwch leihau’r risg o thrombosis pan yn hedfan drwy gymeryd y camau canlynol:
1. Prynu sanau pwrpasol o’r fferyllfa leol a’u gwisgo pan yn teithio
2. Yfed digon o ddwr pan yn teithio (ac osgoi yfed alcohol neu ddiodydd sydd yn cynnwys caffein).
3. Ymarfer cyhyrau’r coesau yn aml wrth deithio. Gallwch wneud yr ymarferion canlynol
- tra’n eistedd gwthiwch sodlau eich traed at y llawr a’u dal yno am ychydig eiliadau, cyn ymlacio. Gwnewch hyn am ychydig funudau yn rheolaidd pob rhyw hanner awr.
- tra’n eistedd gwthiwch fodiau eich traed tua’r llawr (fel pan yn sefyll ar flaenau eich traed). Daliwch eich bodiau fel hyn am ychydig eiliadau cyn ymlacio. Ail adroddwch y broses am ychydig o funudau ar y tro bob rhyw hanner awr.
- codwch i gerdded yn rheolaidd os oes modd.

Cymeryd Meddyginaeth Dramor
Mae’n bwysig i chi gymeryd digon o feddyginaeth presgripsiwn gyda chi i barhau am gyfnod eich gwyliau (ac ychydig yn ychwanegol). Bydd rhai gwledydd yn gwahardd cario meddyginiaethau arbennig felly os oes gennych unrhyw amheuaeth cysylltwch â’r llysgenhadaeth priodol. Fe all eich meddyg gadarnhau’r angen am eich meddyginiaeth os yw’n orfodol.

Cofiwch gario eich tabledi yn y pacedi gwreiddiol a chario copi o’ch presgripsiwn gyda chi pan yn teithio.

Ffitrwydd i deithio
Cysylltwch â’ch meddyg os oes unrhyw amheuaeth ynglyn â’ch ffitrwydd i deithio. Mae’n bwysig i drefnu yswiriant pwrpasol cyn teithio ac i fod yn onest pan yn datgan eich hanes meddygol wrth ei drefnu neu fe allwch ddarganfod nad yw’n ddilys mewn argyfwng.

Pethau i’w cymeryd gyda chi
Yn ogystal a’ch passport cofiwch fod y canlynol yn bwysig
- Ffurflen EHIC o fewn y Gymuned Ewropeaidd
- Tystystgrif Brechiad y Cwymyn Melyn (os yw’n orfodol)
- Digon o feddyginiaeth am eich cyfnod o wyliau
- Yswiriant Iechyd
- Cyfarpar ar gyfer argyfwng meddygol – plasteri, rhwymyn, eli haul, eli rhag trychfilod, ffisig rhag y dolur rhydd
- Condoms – y ffordd orau i’ch amddiffyn rhag clefydau gwenerol.