Gwasanaethau Clinigol
Amser apwyntiadau Yn ôl i’r cychwyn
9.00yb-12.00yh* 3.00-5.30yh o ddydd Llun i ddydd Gwener drwy apwyntiad yn unig.
* 9.30yb- 12.00yh ar fore dydd Mercher. Gall hyn newid o dro i dro.
Rydym ar gau rhwng 1.00-2.00yh bob dydd.
Gwasanaethau ein Nyrsys Yn ôl i’r cychwyn
Mae nyrsys y feddygfa yn rhedeg clinigau i asthma, y clefyd melys, pwysedd gwaed uchel, afiechyd fasgwlar (yn cynnwys clefyd y galon a strôc), iechyd merched, trefnu teulu, chwistrellu a llawfeddygaeth. Yn ogystal a rhedeg clinigau, mae’r nyrs yn cynnig nifer o wasanaethau e.e. brechiadau, tynnu pwythau, chwistrellu clustiau, cyngor gwyliau a.y.b. Mae system apwyntiadau yn bodoli.
Nyrs Ymarferydd - Rachel Hall Bydd yn gweld cleifion gyda afiechydon llai seriws a fyddai yn arferol wedi cael eu gweld gan feddyg teulu, fel heintiau y gwddw, tagiad, anwyd a heintiau dwr a rhai mathau o gyflyron y croen. Mi fydd hefyd yn rhedeg y clinig asthma a COPD.
Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd Bydd cynorthwy-ydd iechyd yn cynorthwyo gyda rhai o’r dyletswyddau sydd wedi’n draddodiadol cael eu gwneud gan nyrsys e.e. mesur pwysedd gwaed, cymeryd ECG, bod yn warchodydd a chymeryd gwaed ar gyfer INR mewn cleifion addas. Maent hefyd yn perfformio yr ymholiad gofrestru.
Staff Cysylltiol Yn ôl i’r cychwyn
Cyflogir gan Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Dinbych, ond byddant yn cydweithio a’r feddygfa. Nyrsys Cymunedol Maent yn cynnig gwasanaeth nyrsio yn y gymuned. Pan yn addas gallant ymweld â’r cartref, a gellir cysylltu â hwy drwy Ysbyty Bae Colwyn (515218) neu’r feddygfa. Ymwelwyr Iechyd Maent yn nyrsys/bydwragedd â hyfforddiant pellach mewn gofal ac addysg iechyd teulu. Maent yn ymwneud â iechyd plant, y clinig brechu plant a clinigau cyn enedigol yn y feddygfa. Gellir cysylltu â hwy drwy’r ysbyty (515218) neu’r feddygfa. Bydwragedd Maent yn cynnal clinigau cyn enedigol pôb prynhawn dydd Mercher a dydd Iau yn y feddygfa. Maent yn ymweld a’r fam ar ôl yr enedigaeth ac yn eich cysylltu â gwasanaethau’r ysbyty. Gellir cysylltu â hwy drwy Ysbyty Bae Colwyn (515218) neu’r drwy’r feddygfa. Nyrsys Seiciatreg Cymunedol Maent wedi eu lleoli yng nghanolfan adnoddau a iechyd meddwl yn Ffordd Nant Y Glyn, Bae Colwyn, lle y cynhelir clinigau. Cysyllter â hwy ar 532164. Nyrs Macmillan Bydd y nyrs hon yn cynnig gwasanaeth i gleifion a’u teuluoedd sy’n dygymod â chancr neu salwch terfynol. Cysyllter â hi drwy Ysbyty Glan Clwyd ar 01745 445169. Dietegydd Mae’r Dietegydd yn cynnal clinig yn y feddygfa unwaith pob pythefnos ar fore dydd Iau.
Gwasanaethau Iechyd Yn ôl i’r cychwyn
Mae gan y feddygfa gontract i arlwyo gwasanaethau i’w chleifion o dan dri prif benawd - Gwasanaethau Hanfodol, Gwasanaethau Ychwanegol a Gwasanaethau ‘Enhanced’. Mae’r feddygfa yn arlwyo yr holl Wasanaethau Hanfodol ac Ychwanegol. Mae’r feddygfa ar hyn o bryd yn trafod â Bwrdd Iechyd Lleol Conwy pa Wasanaethau ‘Enhanced’ y maent am eu harlwyo am y flwyddyn nesaf. Os hoffech fwy o wybodaeth am y Gwasanaethau ‘Enhanced’ a gynigir ar hyn o bryd, cysylltwch â’ch meddyg neu â rheolwraig y feddygfa (Mrs Shelagh Hughes).
Brechiadau Yn ôl i’r cychwyn
Brechiadau Plant - hefyd gweler www.immunisation.nhs.uk Mae brechu plant ac arolygiad iechyd plant yn cael ei wneud gan yr ymwelydd iechyd â’r meddyg rhwng 1.30-3.00yh ddydd Mawrth. Amserlen Brechiadau Oed: 2 mis Diphtheria/Pâs/Tetanus/Polio/Hib + Pneumococcus 3 mis Diphtheria/Pâs/Tetanus/Polio/Hib + llid C yr ymenydd 4 mis Diphtheria/Pâs/Tetanus/Polio/Hib + llid C yr ymenydd + Pneumococcus 12 mis Hib/llid C yr ymenydd
13 mis Clwy pennau, brech goch, brech almaenig (MMR)+ Pneumococcus
3b4m-5b Diphtheria/Pâs/Tetanus/Polio + MMR 13b-18b Diptheria/Tetanus/Polio (i'r rheini sydd heb eu brechu yn yr ysgol)
Os oes unrhyw gwestiynau pellach gall yr ymwelydd iechyd, neu’r meddyg eich cynghori.
Brechiadau Eraill Ffliw a Pneumococcus Pob Hydref rydym yn argymell brechu cleifion dros 65 oed, a chleifion sydd a chyflyrau sy'n eu rhoi mewn perygl uwch petaent yn datblygu'r ffliw. Bydd cleifion dros 65 oed a chleifion sydd a chyflyrau sy'n eu rhoi mewn perygl uwch hefyd yn cael cynnig brech i'w hamddiffyn yn erbyn yr haint pneumococcus. Holwch yn y dderbynfa fis Medi/dechrau Hydref. Tetanus Dylai pawb gael eu brechu’n erbyn y cyflwr hwn. Cysylltwch â’r nyrsys yn y feddygfa os ydych angen cadarnhad os ydych yn imiwn i Tetanus. Human Papilloma Virus(HPV) For information about the planned role-out of HPV vaccination from September 2008 onwards please visit www.screeningservices.org.uk. This is expected to take place in the local secondary/high schools. Clefyd Melyn Rydym yn ganolfan Brechiad Clefyd Melyn. Gwnewch apwyntiad â’r nyrs. Mae tâl am hwn.
Llawfeddygaeth Yn ôl i’r cychwyn
Gall rhai o’r meddygon gario allan llawdriniaethau bychain, fel arfer lympiau, yn y feddygfa, ddwy waith y mis rhwng 2.00-4.00yh. Rhaid i chi weld eich meddyg cyn cael llawdriniaeth.
Yr Ysbyty Gymunedol Yn ôl i’r cychwyn
‘Rydym yn ffodus o gyfleusterau Ysbyty Gymunedol Bae Colwyn, sydd â 42 o wlau a ofalir amdanynt gan Feddyg Teulu lleol ac Ymgynghorwr gofal yr henoed. Gall eich meddyg eich anfon yma am archwyliadau pelydr X, profion gwaed, clinigau ymgynghorol neu physiotherapi a.y.b. Mae adran ddamweiniau bychan yn cael ei rhedeg gan nyrs brofiadol gyda arbenigedd mewn damweiniau; ond dylai unrhyw broblem fawr fynd i Ysbyty Glan Clwyd.
Clinigau mwy arbennigol Yn ôl i’r cychwyn
Clinigau Arbennigol A Hybu Iechyd Mae’r meddygon a’r nyrsys yn rhedeg y clinigau/cyfleusterau penodol canlynol:- Afiechyd Y Galon; Pwysedd Gwaed Uchel; Asthma; Clefyd Melys; Epilepsi; Gofal Atal Cenhedlu; Gofal mamolaeth; HRT; Iechyd Meddwl; Iechyd Merched; Llawfeddygaeth
Cyngor Iechyd (1) Yn ôl i’r cychwyn
(Gweler hefyd www.nhsdirect.nhs.uk am gyngor am sut i ddelio ac afiechydon bychain)
Mae nifer o afiechydon bychain yn gwella heb driniaeth; a gallwch ofalu amdanoch eich hunain yn aml:- Gwrth Fiotigau Gall y rhain fod yn dra defnyddiol i drin heintiau bacteria, ond nid oes lle iddynt i drin afiechydon firws ee ffliw, anwyd, dolur gwddw, dolur rhydd. Gall gor ddefnyddio rhain arwain i facteria yn eu gwrthsefyll pan yr ydych fwyaf eu hangen. Tymheredd Uchel Problem gyffredin, yn enwedig mewn plant. Derfu y rhan fwyaf o achosion eu hunain mewn ychydig ddyddiau, ond dylid yfed digon a pheidio gwisgo gormod o ddillad. Mae defnyddio cadach â dwr llygoer yn dderbyniol. O dan 16oed gellir defnyddio Paracetamol neu Ibuprofen. Ddylech chi ddim defnyddio Aspirin o dan 16oed. Nid yw’n niweidio plentyn â gwres i fynychu’r feddygfa. Brech Nid yw y rhain ar y cyfan yn achos poeni os nad yw’r plentyn yn wael. Mae brech llid yr ymenydd yn wahanol i frechau eraill, gan na wneith ddiflanu wrth bwyso gwydr arno. Brech Almaenig Yr awgrym cyntaf, ac weithiau’r unig awgrym ohono yw brech binc yn cychwyn o’r pen ac yn mynd i lawr y corff. Gellir ei drosglwyddo am 2 ddiwnod cyn ymddanghosiad y frech, tan iddo ddiflanu mewn 4-5 diwrnod. Mae’n beryglus i fabanod yn y groth. Brech Yr Ieir Mae plorynod yn cychwyn ar y corff ac ychydig ar y breichiau, y coesau a’r wyneb. Nid oes llawer o ôl-effeithau.
Cyngor Iechyd (2) Yn ôl i’r cychwyn
Annwyd Achosir anwyd gan feirws ac fel arfer ceir dolur gwddw, trwyn yn rhedeg neu wedi flocio, peswch, ac weithiau cur pen a phoenau dros y corff. Nid yw gwrthfiotigau o unrhyw ddefnydd. Dylech allu gwella gartref trwy ddefnyddio meddyginiaethau o’r fferyllfa, ee Paracetamol, Ibuprofen neu Aspirin (os dros 16 oed), meddyginiaethau ‘decongestant’ a rhai tagu. Os oes cymhlethdodau fel poen sinws, tagiad parhaus gyda fflem budur neu bigyn clust yn datblygu, mae’n bosib y bydd angen gwrthfiotigau Pigyn Clust Mae y mwyafrif o’r rhain yn darfod heb wrthfiotigau a dylech ddefnyddio Paracetamol neu Ibuprofen at y boen. Os yw’n parhau mwy nac ychydig ddyddiau, neu os yn arbennig o ddrwg, cysylltwch â’r meddyg. Dolur Rhydd Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn cael eu achosi gan firysau, ond yn achlysurol gan wenwyn bwyd. Dylid sicrhau bod y claf yn cael digon i yfed i gymeryd lle yr hylif sy’n cael ei golli. Cysylltwch â’r meddyg os yw’r symptomau’n hir, yn enwedig yn yr henoed, babanod neu gleifion clefyd melys. Byddwch yn ofalus i ddilyn cyfarwyddiadau storio a choginio eich bwyd, ac i gadw safon hylendid uchel yn eich cartref. Gwaedlif Trwyn Anaml iawn mae achos difrifol am y rhain. Eisteddwch ymlaen a gwasgwch flaen y trwyn yn galed am tua chwarter awr. Gellir gwasgu paced rhew yn erbyn y trwyn. Os nad yw wedi arafu, cysylltwch â’r meddyg.
Canlyniadau Profion Yn ôl i’r cychwyn
Cyfrifoldeb y claf yw ffonio y feddygfa am eu canlyniadau rhwng 2.00-4.30yh. Oherwydd rhesymau gwarchod data, ni fydd canlyniadau yn cael eu rhoi i unrhyw un heblaw y claf heblaw for gan y feddygfa gopi ysgrifenedig o 'Lasting Power of Attorney' sydd wedi penodi y galwr fel rhywyn sydd a'r hawl i ddelio efo materion iechyd a lles y claf mewn cwestiwn.
Presgriptiynnau Dilynol Yn ôl i’r cychwyn
I gleifion sydd angen meddyginiaeth hir dymor, mae gennym system gyfrifiadurol i bresgriptiynnau dilynol. Gadewch eich rhestr gyfrifiadur, gan nodi’n eglur pa eitemau a ddymunwch, naill ai yn y dderbynfa cyn 1.00yh neu drwy amgau amlen gyda’ch cyferiad â stamp arni, neu drwy archebu ar-lein drwy y wefan hon. Os ydych yn archebu ar-lein cofiwch ddefnyddio eich 'reference number' yn y feddygfa sydd ar dop dudalen rwyg eich presgripsiwn dilynol. Dylid caniatau o leiaf 24 awr i gael presgriptiwn, heblaw ar ddydd Gwener, pan y bydd y prescriptiwn ar gael brynhawn Mawrth. Er mwyn i ni oruchwylio eich triniaeth bydd stamp coch ar eich prescriptiwn bôb 6-12 mis yn eich cyfeirio i weld y meddyg. Polisi Bwrdd Iechyd Lleol Conwy yw i’r feddygfa roi prescriptiwn 28 diwrnod yn unig i’w chleifion. Mae Technegydd Presgripsiwn Meddygfa (Amanda J Hughes) sydd yn gyflogedig gan Fwrdd Iechyd Lleol Conwy yn gweithio o’r feddygfa, ermwyn helpu i sicrhau presgripsiynau o’r safon uchaf.
Archebu Prescriptiynnau I SICRHAU EICH DIOGELWCH NI DDERBYNIR CAIS AM UNRHYW FATH O BRESCRIPTIYNNAU AR Y FFÔN.
Ocsigen Cartref
Mae y cwmni Air Products, a nid fferyllfa lleol, rwan yn gyfrifol am arlwyo eich cyflenwad o ocsigen cartref. Gallwch gysylltu a Air Products 24 awr y dydd ar y llinell argyfwng 0800373580
Plant a phobl ifanc Yn ôl i’r cychwyn
Cred y feddygfa y dylai plant a phobl ifanc gael eu hamddiffyn bob amser. Os oes gennych gwyn neu yn pryderu am unrhyw beth cysylltwch a Mrs Shelagh Hughes, Rheolwraig y Feddygfa, un o’r partneriaid neu Ymwelydd Iechyd. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Conwy hefyd wedi comisiynu gwasanaethau Tros Gynnal ermwyn cael cyfleuster eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghonwy (cysylltwch drwy ffonio y rhif am ddim 0800 0852274 neu yrru neges destyn i 07768 161452).
Atal cenhedlu Yn ôl i’r cychwyn
Gellir cael cyngor gan y meddygon a'r nyrsys
Clinig Cynedigaeth Yn ôl i’r cychwyn
Byddwch yn cael eich anfon i glinig ymgynghorydd, ond bydd mwyafrif eich gofal yn nwylo’r bydwragedd a’r meddygon. Dylid cysylltu â’ch meddyg cyn gynted ac y darganfyddwch eich bod yn feichiog. Cynhelir y clinig bob dydd Mercher a dydd Iau gan y bydwragedd. Mae’n holl bwysig dod am eich archwyliad ôl-enedigaeth 6-8 wythnos.
Prawf Ceg y Groth Yn ôl i’r cychwyn
Mae canllawiau cenedlaethol yn cynghori pob merch rhwng 20 a 65 oed i gael y prawf uchod bob 3 mlynedd. Bydd y prawf yn cael ei wneud gan y nyrs mewn apwyntiad Iechyd Merched. Os y dymunwch i’r meddyg wneud y prawf, hysbyswch y dderbynwraig, fel y gallwn wneud y paratoadau angenrheidiol. Gweler www.screeningservices.org/csw am wybodaeth am brawf ceg y groth. Cofiwch y byddwch yn dal angen prawf ceg y groth hyd yn oed os ydych wedi eich brechu yn erbyn Firws Papiloma Dynol (HPV).
Gwarchodydd Yn ôl i’r cychwyn
Bydd gwarchodydd ar gael bob amser y dymunir un.
Dietegydd Yn ôl i’r cychwyn
Bydd dietegydd o’r ysbyty yn rhedeg clinig yn y feddygfa unwaith pob pythefnos. Gall eich cynghori am nifer of agweddion o’ch diet, gan gynnwys colli pwysau a dietau arbennig ar gyfer gwahanol glefydau. Gallwch wneud apwyntiad a hi wedi gweld eich meddyg neu un o nyrsys y feddygfa.
Gofalu am Ofalwyr Yn ôl i’r cychwyn
Mae’r feddygfa yn cydnabod fod gofalu am ffrind neu berthynas, untau yn ffurfiol neu anffurfiol, yn achlysurol yn cyflwyno problemau yn ei hunan. Cofiwch adael i’ch meddyg wybod os ydych yn ofalwr/ofalwraig, fel y gall/gall hi eich helpu i sicrhau cyngor addas i’ch galluogi i ddelio ag unrhyw broblemau a ddowch ar eu traws. Dylech gofrestru â’r Gwasanaeth Cyngor Gofalwyr, Bae Colwyn (533714) neu trwy siarad a June, Lynne neu Shirley yn y feddygfa.
Mammograffi Yn ôl i’r cychwyn
Yn ogystal a hunan archwyliad o’r bronnau gall merched rhwng 50-65 oed gael yr archwyliad pelydr X hwn bob 3 mlynedd. Dylech dderbyn apwyntiad oddi wrth Bron Brawf Cymru (01492 860888) ar yr adegau priodol.
|