| Croeso i Meddygfa Cadwgan | |||||||||||||||||||||||||
|
Cefndir y Practis a Datganiad o Fwriad Rydym yn gofalu am 11700 o gleifion, o adeilad wedi ei foderneiddio, gyda mynediad hawdd, lifft i’r anabl a dolen glyw i’r byddar. Mae gan y feddygfa gontract â Bwrdd Iechyd Lleol Conwy i arlwyo lefel o ofal a gytunwyd ymlaen llaw. Os ydych eisiau cofrestru â’r feddygfa, dylech gysylltu a derbynwraig i wneud ymholiadau pellach. O dan y gontract â Bwrdd Iechyd Lleol Conwy ni fyddwch mwyach yn cofrestru a meddyg penodol, ond yn cofrestru â’r feddygfa. Gallwch, sut bynnag, o fewn rheswm, ddal i weld meddyg penodol os yr hoffech. Nid yw partneriaeth y feddygfa yn un gyfyngedig. Rydym yn bractis hyfforddi cofrestryddion; maent yn feddygon profiadol a oedd gynt yn gweithio mewn ysbyty. Weithiau bydd gennym hefyd fyfyrwyr meddygol gyda ni am hyd at 6 wythnos. Rydym yn anelu i arlwyo gofal o'r raddfa uchaf mewn lein efo'r safonau meddygol gorau. Rydym yn credu mai cleifion ddylai arwain eu gofal iechyd - mi wnewn helpu ein cleifion i wneud y penderfyniadau cywir ynglyn au triniaeth drwy rannu y dewisiadau triniaeth mewn ffordd y gallant ei ddeall. Rydym yn anelu i drin pawb a pharch, ac i osgoi unrhyw ragfarnu yn erbyn oed, rhyw a hil. Cymerwn farn ein cleifion i ystyriaeth wrth ddatblygu gwasanaethau ac rydym yn ffodus o gael Grwp Cyfranogiad Cleifion sydd yn cyfarfod naw gwaith y flwyddyn. Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch â chadeirwraig y grwp, Mrs Fiona Pack ar 01492 515118. Beth a ddisgwyliwn gan ein cleifion • Byddwch yn gwrtais â staff y feddygfa. • Nid yw y feddygfa yn caniatau ymddygiad treisiol a sarhaus tuag at unrhyw aelod o’i staff, a gofynnir i’r cleifion hyn ddadgofrestru a chysylltu â Bwrdd Iechyd Lleol Conwy er mwyn cofrestru a meddyg arall. • Byddwch yn brydlon i’ch apwyntiad a gadewch i ni wybod os na allwch fynychu’r feddygfa; fel y gellir cynnig eich apwyntiad i rywun arall. • Peidwch a cham-ddefnyddio galwadau cartref; dim ond i’r gwir wael neu’r anabl mae’r rhain. • Defnyddiwch y gwasanaeth ‘ar alwad’ i argyfyngau yn unig. • Archebwch eich presgripisiynnau dilynol mewn digon o bryd gan adael 24 awr iddynt gael eu prosesu. Casglwch eich prescriptiwn wedi 2.00yh. |